Cymraeg
Delio â Gwasanaeth Gwrandawiadau Gweithwyr Deintyddol Proffesiynol trwy gyfrwng y Gymraeg
Mae Gwasanaeth Gwrandawiadau Gweithwyr Deintyddol Proffesiynol wedi ymrwymo i gynnig ein gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Cyfathrebu ysgrifenedig
Gallwch ysgrifennu atom yn Gymraeg, trwy lythyr neu e-bost.
Galwadau ffôn
Bydd galwadau ffôn yn cael eu cynnig yn Saesneg. Os hoffech siarad yn Gymraeg, bydd gennych yr opsiwn o barhau â'r alwad yn Saesneg neu ysgrifennu atom yn Gymraeg.
Cyhoeddiadau
Mae llawer o'n cyhoeddiadau ar gael yn Gymraeg. Bydd safonau a chanllawiau proffesiynol yn cael eu cyfieithu ar gais.
Y wasg a hysbysebu
Byddwn yn cyhoeddi datganiadau dwyieithog i'r wasg ar gyfer y cyfryngau yng Nghymru lle bo hyn yn berthnasol. Darperir cyfieithiadau ar gais. Bydd hysbysebion a chyhoeddusrwydd yng Nghymru yn cael eu cyflwyno'n ddwyieithog, yn ogystal â hysbysebion cylchgronau a phapurau newydd.
Gwrandawiadau
Mae modd codi pryder am weithiwr deintyddol proffesiynol cofrestredig yn Gymraeg ar wefan y Cyngor Deintyddol Cyffredinol.
Os bydd hyn yn arwain at wrandawiad, gall cofrestreion a thystion roi tystiolaeth yn Gymraeg. Pan fyddwn yn gwybod bod naill ai cofrestrai neu dyst yn dymuno darparu eu tystiolaeth yn Gymraeg, byddwn yn darparu cyfieithwyr â chymwysterau addas (mae angen hysbysiad ymlaen llaw arnom i allu gwneud hyn yn effeithiol).
Cynllun Iaith Gymraeg
Er ein bod yn darparu gwasanaeth gwrandawiadau annibynnol, yn gyfreithiol rydym yn atebol i'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol (GDC). O’r herwydd, mae cynllun iaith Gymraeg y GDC yn berthnasol i ni, sy’n dweud wrthym sut rydym yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal. Mae hyn yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, a ddywedodd y dylid trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal mewn busnes cyhoeddus ac wrth weinyddu cyfiawnder yng Nghymru.
Cyflwynwyd y cynllun iaith Gymraeg ym mis Ionawr 2011 ac fe’i cymeradwywyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg, sydd bellach wedi’i ddisodli gan Gomisiynydd y Gymraeg.
Rydym yn monitro’r cynllun iaith Gymraeg ac yn adrodd yn flynyddol ar ein cynnydd i Gyngor y CDC a Chomisiynydd y Gymraeg.